Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Mehefin 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo. Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu:
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy’n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu’n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
(5 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
(60 munud)
(60 munud)
(30 munud)
NDM7330 Julie James (Gorllewin Abertawe):
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2019-21 (Saesneg yn unig)
(30 munud)
NDM7329 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2,:
Yn cytuno bod Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 29 Ebrill 2020, yn cael eu dirymu.
(60 munud)
NDM7331 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu cynllun gwarantu cyflogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19;
b) sefydlu cynllun ailhyfforddiant ac ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd angen canfod cyflogaeth amgen yn dilyn yr argyfwng;
c) cynnull cynulliad dinasyddion i drafod sut y dylai Cymru “Adeiladu Nôl yn Well” yn dilyn profiad o’r argyfwng; a
d) sefydlu "Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan" gwerth biliynnau o
bunnoedd i ariannu’r gwaith o ailadeiladu ein
gwlad.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.
2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol.
3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.
4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y Coronafeirws.
5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y dyfodol.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a theg.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt (a), dileu 'cyflogaeth' a rhoi yn ei le 'prentisiaeth'.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt (b):
'a chyflwyno rhaglenni cadw a datblygu sgiliau cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn y sectorau sy'n wynebu'r risg fwyaf er mwyn sicrhau na chollir y gallu na'r cyfle i uwchsgilio'r gweithlu lleol yn ystod y cyfnod hwn o lai o weithgarwch.'
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt (c), dileu 'cynulliad dinasyddion' a rhoi yn ei le 'tasglu trawsbleidiol'.
Gwelliant 5 -Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
'sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i gefnogi'r trefi a'r cymunedau hynny y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig.'
Gwelliant 6 – Neil McEvoy (Caol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Er mwyn ailadeiladu Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau sy'n meddiannu eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw;
b) rhoi cymorth i'r rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i gwmnïau tafarndai yn ystod yr argyfwng;
c) deddfu i alluogi cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus Cymru; a
d) cyfeirio'i pholisi economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio bwyd a diod drwy greu diwydiant chwisgi cyflawn.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 17 Mehefin 2020